Mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gyflwyno cynhadledd addysg oedolion eleni mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru gyda chefnogaeth Dysgu Oedolion Cymru.
Datblygu hawl i
ddysgu gydol oes
Y llynedd gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad oedd yn torri tir newydd i ddatblygu hawl i ddysgu gydol oes. Gyda thystiolaeth yn parhau i ddangos gwerth dysgu gydol oes ac addysg oedolion wrth helpu i addasu i'r newid yn natur gwaith, i wella iechyd a llesiant, ac i ddod â chymunedau ynghyd, mae gennym gyfle yng Nghymru i gydweithio i wireddu hawl newydd i ddysgu. Bydd y Gynhadledd Addysg Oedolion eleni yn edrych ar yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddarparu hawl i ddysgu gydol oes, yn cynnwys rôl colegau, prifysgolion, dysgu yn y gymuned, darparwyr hyfforddiant, undebau llafur a'r trydydd sector. Bydd
cynrychiolwyr yn clywed gan arweinwyr sector allweddol ar yr heriau a'r cyfleoedd, yn ogystal â chael cyfle i drafod y newidiadau polisi sydd eu hangen i wireddu hyn ar gyfer pobl ym mhob cymuned yng Nghymru. Bydd y gweithdai a thrafodaethau sesiynau llawn yn cynnwys:
Rôl ac effaith dysgu yn y gymuned, seiliedig ar le yn y dyfodol
Profiad dysgwyr a phwysigrwydd cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol
Rôl undebau llafur wrth gefnogi sgiliau hanfodol yn y gweithle
Pwysigrwydd buddsoddi mewn dysgu fel teulu
Creu llwybrau i addysg uwch
Adeiladu cynnig dysgu ar-lein Cymru
Learning and Work Institute is pleased to bring you this year’s adult learning conference in partnership with Adult Learning Partnership Wales
and supported by Adult Learning Wales.
Developing a right to lifelong learning
Last year the Welsh Government made a ground-breaking commitment to developing a right to lifelong learning. With evidence continuing to show the value of lifelong learning and adult education to helping people to adapt to the changing nature of work, to improve health and well-being, and to bring communities together, we have
an opportunity in Wales to work together to make a new right to learning a reality.
This year the Adult Learning Conference will focus on the key components needed to deliver a right to lifelong learning, including the role of colleges, universities, community learning, training providers, trade unions, and the third sector. Delegates will hear from key sector leaders on the challenges and opportunities, as well as having the opportunity to discuss in detail the policy changes needed to make this a reality for people in all communities in Wales. Workshops and plenary discussions will
include:
Future role and impact of community, place based learning
Learner experience and the importance of advice, guidance and practical support
Role of trade unions in supporting essential skills in the workplace